Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Medi 2023
Amser:
09.30 -
11.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13475
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru, Auditor General for Wales, Audit Wales Dr Kathryn Chamberlain, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru Jonathan Athow, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Katherine Gross-Niklaus, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Cyfarfod preifat cyn y prif gyfarfod (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS).
2 Papur(au) i'w nodi:
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amserlen y gyllideb ar gyfer 2024-25 - 12 Medi 2023
3 Archwilio Cymru – Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilio Cymru ar gyfer 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru.
3.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
· Manylion ychwanegol am gyfradd trosiant staff ar draws y sefydliad yn ystod y deuddeg mis blaenorol, gan gynnwys dadansoddiad o rolau'r staff a adawodd a nifer y staff archwilio cymwysedig a adawodd y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol ar gyfer 2023-24
5.1 Trafododd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24 ag Archwilydd Cyffredinol Cymru; Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a swyddogion Archwilio Cymru.
6 Sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth Cwsmeriaid a Dylunio Treth, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi; a Katherine Gross-Niklaus, Uwch Gynghorydd Polisi Treth Incwm Datganoledig, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
7 Sesiwn friffio dechnegol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi - Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Archwilio Cymru – Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 a Chynllun Blynyddol 2024-25 / Amcangyfrif Atodol 2023-24: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 ac Amcangyfrif Atodol 2023-24.
9 Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Adolygiad annibynnol
9.1 Trafododd y Pwyllgor y materion sy’n codi o'r adolygiad annibynnol o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.
10 Y wybodaeth ddiweddaraf am Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid
10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid.
11 Y wybodaeth ddiweddaraf am Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - Cynghorydd Arbenigol a sesiynau tystiolaeth
11.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y trefniadau ar gyfer craffu ar oblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).